|
Tunis, March 23, 2008 (TunisiaOnline) The 22nd edition of the much
celebrated Tamaghza mountain oasis festival , in the governorate of
Tozeur, was launched on Saturday by a parade, organized at the town's
entrance. The opening of the festival gathered together popular and
|
About Tunisia
Tourism
Coast
Korbous |
|
|
|
|
Page 1 of 2 Mae Korbous yn spa (lle â ffynhonnau iachusol ynddo) ar arfordir gogledd-ddwyrain Tunisia yn ardal Cap Bon. Gorwedd y dref fechan ar lan Gwlff Tunis tua 60 km i'r dwyrain o'r brifddinas Tunis, rhwng Soliman a Sidi Daoud.
Wedi ei hadeiladu ar lethrau mynydd ar hyd yr unig ffordd sy'n
rhedeg trwyddi, rhwng y mynydd hwnnw a'r môr, roedd Korbous eisoes yn
gyrchfan poblogaidd gan drigolion y CarthageRufeinig. Deuai trigolion Carthage yno mewn llongau arfordirol dros Gwlff Tunis i ymdrochi a "chymryd y dyfroedd." Fe'i galwyd yn Aquae Calideae Carpitanae
('Dyfroedd Carpis', ar ôl tref fechan arall gerllaw), oherwydd fod
ffynhonnau poeth yn byrlymu o'r ddaear yno (ar dymheredd o dros 50°C);
ceir sawl darn o gerflun a gwaith carreg arall o'r cyfnod Rhufeinig o
Korbous, ynghyd ag arysgrif Lladin, sydd i'w gweld yn Amgueddfa'r Bardo
yn Tunis heddiw. Ond ar ôl goresgyn Tunisia gan yr Arabiaid yn y 7fed
ganrif, syrthiodd y spa i ebargofiant gan bawb heblaw'r bobl leol. Yn y
19eg ganrif, rhoesAhmed I Bey, rheolwr Tunisia, hwb i'r dref trwy godi plas iddo'i hun yno a daeth Korbous yn gyrchfan poblogaidd eto.
Erbyn heddiw mae Korbous yn lle sy'n boblogaidd gan drigolion
dosbarth canol Tunis i ddianc am ychydig o ddyddiau i ymdrochi yn ei
dyfroedd. Honnir fod y ffynhonnau poeth, sy'n llawn soda a chlorîn, a'r
dŵr swffwrig oer yn dda at grucgymalau ac athritis.
Mae ffordd arfordirol yn cysylltu Korbous â
Soliman a Tunis i'r gorllewin ac ag Ain Atrous (safle spa arall) i'r
dwyrain, lle mae'r ffynhonnau poeth yn dod allan yn y môr ei hun.
Rocks and springs
|
| < Prev | Next > |
|---|